Draw/'Nawr mi wela'r nos yn darfod

(Llawn Fuddugoliaeth yn y Diwedd)
1,(2),3.
Draw mi wela'r nos yn darfod,
  Draw mi welaf olau'r dydd
Yn disgleirio dros y bryniau,
  Melys ym mhen gronyn fydd;
Ffy gelynion pan ddêl golau,
  Ni all pechod, er ei rym,
A'i holl wreiddiau yn fy natur,
  Sefyll Haul
      Cyfiawnder ddim.

Daw i ben,
    aed byd yn ufflon,
  Bob rhyw air a dd'wedo 'Nhad;
Sathrir Satan,
    sathrir angeu,
  Sathrir uffern dan fy nhraed.
Buddugoliaeth ddaw o'r diwedd
  A phan ddel melusaf fydd;
Mil o nwyddau gyda'm Harglwydd
  Nid yw ragor ddim na dydd.

Yn y rhyfel mi arhosaf,
  Yn y rhyfel mae fy lle:
Boed fy ngenau tua'r ddaear,
  Boed fy llygaid tua'r ne';
Doed y goncwest pryd y delo,
  Mi ddisgwyliaf wrth fy Nuw,
Nes o'r diwedd weled pechod
  Wedi derbyn marwol friw.
ufflon :: yfflon
sathrir :: sethrir

Ffarwel Weledig, rhan I, 1763.

           - - - - -

'Nawr mi wela'r nos yn darfod
  'Nawr i wela'r goleu llawn,
Yn disgleirio tros y brynniau,
  Gyd a llewyrch hyfryd iawn:

Mae ei gyrhaedd ef mor ehang,
  Mae ef yn cwmpasu'r byd,
Fe ddaw'r Indiaid, tywyll deillion
  Tan ei gysgod ef ryw bryd;

Ei ruddfanau ar y croes-bren,
  Oedd yn pwyso beiau'r byd,
Pwysau pechod oedd ofnadwy
  Poenau f'Arglwydd
      oedd fwy drûd.
Diferion y Cyssegr 1804

William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Bryngogarth (William P Roberts 1862-1912)
Edinburgh (F A G Ouseley 1825-89)
Engedi (J E Jones 1856-1927)
Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
Llanrwst (Dan Jones 1886-1961)
Pennant (T Osborne Roberts 1879-1948)
Sanctus (John Richards 1843-1901)
  Tan-yr-Ywen (Owen Williams 1877-1956)
Tanycastell (John Jones [Talysarn] 1796-1857)

Tonau [8787]:
Vienna (<1875)
Winter (<1875)

gwelir:
  O fy enaid gwan nac ofna
  Tywyned haul-wen ar fy enaid

(Complete Victory in the End)
1,(2),3.
Yonder I see night fading,
  Yonder I see the brightness of the day
Shining over the hills,
  Sweet in a little while it will be;
Foes shall flee when light comes,
  Nor can sin, despite its strength,
And all its roots in my nature,
  Withstand the Sun of
      Righteousness at all.

Fulfilled shall be,
    let the world will go to ruin,
  Every word my Father said;
Satan is to be trampled,
    death is to be trampled,
  Hell is to be trampled under my feet.
Victory will come eventually
  And when it comes, sweetest it will be,
A thousand years with my Lord,
   Will no more than a day.

In the battle I will stay,
  In the battle is my place:
Let my mouth be towards the earth,
  Let my eyes be towards the heaven;
Let the conquest come when it may,
  I am watching for my God,
Until at last seeing sin
  Having received a mortal wound.
::
::

 

                - - - - -

Now I see the night vanishing
  Now I see the full light,
Shining over the hills,
  With a very delightful gleam:

Its arrival is so widespread,
  It is encompassing the world,
The dark, blind Indians shall come
  Under his shadow sometime;

His groans on the wooden cross,
  Were weighing the faults of the world,
The weight of the sin that was terrible
  The pains of my Lord
      that were more costly.
 

tr. 2009,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~